Cymraeg
Welsh 
Home
Snowdonia
Green Key
Partnership
Freedom to choose - Snowdonia Group
What We Think
Addresses
Questionnaires
Search
Your Support
Ffurfwyd y Grwp Rhyddid i Ddewis - Eryri ar 8 Ionawr, 2002 i ddarparu ymateb i'r dogfen strategaeth erbyn 4 Mawrth, 2002
Mae’r mwyafrif o’r sylwadau a welir yma wedi cael ei gyrru’n uniongyrchol i’r Swyddog Prosiect, Goriad Gwyrdd Eryri ar Gyngor Sir Gwynedd hefo copi i ni yma yn Rhyddid i Ddewis - Eryri.
Credwn ei fod yn hanfodol eich bod chwi yn gweld y math o sylwadau sy’n cael ei gwneud ac yn cael y cyfle i ffurfio barn eich hunan am danynt (llywodraeth agored neu hyd yn oed
E-Lywodraeth!). Hefyd mae’r mwyafrif yn cael ei harddangos yn ddienw - dylai’r dadleuon sefyll neu ddisgyn yn ôl y pwyntiau a fynegir ac nid cael ei lliwio gan unrhyw ragfarnu am y sawl a’i gwnaeth. Yn holl bwysig felly - os nad yw eich sylwadau chi wedi cael ei anfon yn uniongyrchol, dylech wneud hynny.
Mae’r broses benderfynu i sicrhau Arian Ewropeaidd Amcan Un yn ymofyn tystiolaeth o gefnogaeth gyhoeddus gadarnhaol. Efallai y byddech yn ystyried mynegi eich sylwadau i’ch cynrychiolyddion etholedig. Mae dolennau cyfathrebu o’n tudalen Cyfeiriadau wnaiff eich cynorthwyo i gael yr wybodaeth os ydych eisiau gwneud hyn. Hefyd mae holiaduron y gallwch eu cwblhau a’i dosbarthu.
Fe fydd y mudiad Rhyddid i Ddewis - Eryri yn gwneud ymatebiad fydd yn ceisio cyfnerthu yr holl bwyntiau a wneir yma mewn un ddogfen ymateb - felly daliwch ati i ysgrifennu!  I gryfhau ein hymgyrch, byddai’n help i chwi ymuno â ni.  
(Diolch I bawb o bob cornel o’r Wlad sydd yn ymuno).

Sylwad 

Penawd

Dyddiad osodwyd

1 Datganiad a sylwad cychwynnol  15/01/02
45 Gymdeithas Bysgota Dyffryn Ogwen 26/02/02
59 Ffermwr lleol yn Nant Ffrancon 22/02/02
     
Cafodd sylwadau 2 - 76 eu cynnwys gyda ymateb ein Grwp i swyddog prosiect, Cynllun Goriad Gwyrdd Eryri

Byddwn yn parhau i ychwanegu unrhyw sylwadau eraill os bydd gwybodaeth newydd ynddynt ac fe rown adroddiadau ar unrhyw ddatblygiadau yn y broses ymgynghorol.

Byddwn yn hynod falch o dderbyn awgrymiadau adeiladol am beth ddylai gael ei gynnwys mewn cynllun am ddatblygiad gynaliadwy

Dymunwn hefyd bwysleisio mai dogfen ymgynghorol yw Strategaeth Goriad Gwyrdd Eryri. Golyga hyn mai cynigion yn unig yw’r cynllun Parcio a Reidio a’r cyfyngiadau ar barcio - nid ydynt ar fin cael eu gweithredu.

Mae angen eich cymorth ar y cymunedau yn yr ardal yma, felly daliwch i ymweld â hi a mwynhewch eich hunan wrth wneud hynny. Diolch i chi

Yn ôl