|
Fel ffermwr lleol yn Nant Ffrancon, lle
mae tua ½ miliwn o ymwelwyr yn dod i fwynhau y rhyddid a harddwch yr ardal, mae’r cynllun sydd yn cael ei roi
ger bron yn codi gwallt fy mhen, o feddwl fod corff mor gall a’r Parc yn
gallu ymddwyn mor ddwl. Lle mae
cymunedau lleol sydd yn diodda yn barod, yn gallu cael ei dinistrio yn
gyfangwbwl, drwy’r camgymeriad yma, o gario pobl o un lle i’r llal fel
gwartheg i’r mart.
Mae’r ymwelwyr hyn yn dod i’r ardal
am eu bod yn mwynhau y rhyddid i fynd a dod ac am harddwch yr ardal. Drwy roi rhwystr a rheolau ger ei
bron fe ymgymeran i aros o’r ardal yn gyfangwbwl. Lle mae’r boblogaeth leol yn cael
incwm wedyn? Mae hi ddigon
anodd fel y mhai ar hyn o bryd i symud ymlaen mewn amaeth. Rydan i wedi trosglwyddo’r fferm
fynydd hon i fod yn organic, y gyntaf yn Wynedd a wedi bwriadu gwerthu ei
chynnrych o gig oen Cymreig a Eidion Du i’r ymwelwyr. Toes fawr o obaith i unrhyw un fynd
o’r fferm i ddisgwyl am fws i Bethesda neu Llanrwst hefo caes oen yn ei
rucksack.
Meddyliwch yn galed cyn symud ymlaen
mae’r syniad yn dda ond mae’r rhyddid i fynd a dod yn llawer cryfach.
|