|
Cyfeiriaf at y cyfarfod cyhoeddus yn Neuadd Ogwen,
Bethesda ar Nos Llun 28 Ionawr i drafod y cynllun uchod.
Ar ran aelodau’r Gymdeithas hoffwn roi gwybod i chwi
ein bod yn gwrthwynebu’n gryf yr holl gynllun oherwydd yr effaith
fyddai’n cael ar ein aelodau a’n pysgota.
Mae gan y Gymdeithas 300 o aelodau
ac mae’n rhan o’n cyfansoddiad ein bod yn darparu pysgota i bobl lleol
am bris mor rhesymol o isel a phosib. Pe bai’r cynllun yma yn dod i rym
byddai’n golygu cost ychwanegol i bob pysgotwr bob tro maent eisiau mynd i
bysgota. Yn ogystal, yn yr haf bydd nifer o’n aelodau yn hoffi mynd i
bysgota gyda thoriad gwawr a gyda’r hwyr fel mae’n tywyllu ac mi
fyddai’r cynllun yn effeithio ar hyn.
Gallwn ragweld y bydd nifer helaeth o’n aelodau yn
penderfynu peidio ac ymaelodi am nad ydynt yn barod i dalu am fynd i bysgota.
Yn dilyn o hyn ni allwn gynnal y Gymdeithas a bydd y pysgota yn disgyn i
ddwylo clwbiau mwy cyfaethog o tu allan i Gymru, gyda pysgotwyr lleol yn
ddioddef.
Yn ogystal a physgotwyr lleol mae oddeutu 100 o
ymwelwyr y tymor yn dod i bysgota ein dyfroedd gan ddisgwyl cael mynediad at
y dyfroedd yn eu hamser eu hunain heb ddibynnu ar fwsiau lleol.
Edrychaf ymlaen i dderbyn eich sylwadau a’ch ymateb i’n
pryderon.
|