Cymraeg
Welsh 
Home
Snowdonia
Green Key
Partnership
Freedom to choose - Snowdonia Group
What We Think
Addresses
Questionnaires
Search
Your Support
Ynglyn â:  Cynllun Goriad Gwyrdd Eryri

 

I bwy bynnag a fynno wybod,

’Rwy’n gwerthfawrogi y bwriad i wella economi gwledig ardal Eryri ac i sefydlu system drafnidiaeth hyblyg, gwbl integredig ac effeithlon.  Ond, mae Cynllun Goriad Gwyrdd Eryri yn cynnig creu Clirffordd Wledig, fyddai yn cyfyngu’n llym ar y cyfle i stopio o fewn Gogledd Parc Cenedlaethol Eryri.

Wrth ddileu parcio ar fin y ffordd a gwneud yr ychydig o feysydd parcio ar ôl yn gostus a thros gyfnod byr, bydd ymwelwyr yn cael ei gorfodi i ddefnyddio’r cynllun parcio a reidio o un o’r trefydd Pyrth. Bydd hyn yn cael dylanwad niweidiol ar weithgareddau cerddwyr, dringwyr, canwyr, arlunwyr, pysgotwyr, rhedwyr, beicwyr a barcutwyr ayb.

Mae economeg y Cynllun yn dibynnu ar gyfyngu mynediad rhesymol, - ac yn hyn o beth mae’r broblem.  Mae’r angen am fynediad yn hanfodol a bydd unrhyw gyfyngiad yn lleihau gallu’r bobl i gyfranogi’n llawn mewn gweithgareddau mynyddig. Mae hyn yn sicr o gael gwrthdrawiad negyddol ar economi rhanbarthol Eryri, sy’n barod dan bwysau, pan fydd brwdfrydwyr awyr agored yn anochel yn dewis ymweld a gwario arian mewn rhanbarthau eraill lle mae modd dilyn ei gorchwylion gyda llai o rwystrau.

Mae’n hanfodol fod barnau defnyddwyr Eryri a’r cymunedau lleol yn ffurfio rhan gyfannol o unrhyw strategaeth, ac mae nifer helaeth wedi mynegi gwrthwynebiadau cryf i’r Cynllun Goriad Gwyrdd fel mae’n sefyll ’nawr. Ond, ar yr un pryd, maent yn llawn gefnogi’r angen i wella cyfleusterau,  i ychwanegu meysydd parcio sensitif o fewn y Parc, ac I agor mwy o lwybrau cerdded a beicio ar lefel isel. 

Ydw

Na

’Rwy’n byw o fewn yr ardal: 
   
'Rwy'n cefnogi Parcio a theithio 'nol y cynllun:
   

Byddai cynllun Parcio a theithio yn Peri i mi ymweld â Eryri:

a) Mwy aml?
 
b) Fel 'nawr?
 
c) Llai aml?
 
d) Ystyried yn ddifrifol mynd i rywle arall?
 

Unrhyw Sylwada Pellach:

    

  

 

Llofnod

 

Enw Dyddiad
Cyfeiriad

  

Dychwelwch i: Rhyddid i ddewis - Eryri, d/o Y Swyddfa Bost, Capel-Curig, Gogledd Cymru, LL24 0EL cyn 4ydd Fawrth 2002

Edrychwch ar y safle-we www.eryri2002.fsnet.co.uk  sy'n rhoi mwy o gyfeiriadau i ysgrifennu atynt yn ogystal â' linc i'r dogfen strategaeth yw darllen. Hefyd cysylltwch â: Gwenllian Owens, Adran Cynllunio a Datblygu Economaidd, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1SH   Ffôn: 01286 679513  E-bost: gwenllianowens@gwynedd.gov.uk 

Yn ôl