-
Mae
mynediad i’r ardal yn cael ei feddiannu. Mae’r ardal hon yn Barc
Cenedlaethol sydd, drwy ddeddf Seneddol, yn maethu ‘awyr agored,
ymarfer ac astudiaeth natur’ ac sydd yn rhwym i hyrwyddo cyffyrddiad
profiadau o’r fath. Y bwriad yw iddo fod yn wrthwenwyn i’r
weithfan o reolaeth
a phwysau ac yw harddwch arlwyo adfywiad ysbrydol.
Mae’r egwyddorion hyn wedi eu cyfaddawdu yn llym dros ben yn
y cynllun hwn.
-
Mae’r
dewis arferol o fynediad gyda char, sy’n arbennig o effeithlon gan
ystyried y tyfiant cynyddol mewn ymweliadau pen wythnosol, yn cael eu
cyfyngu yn rymus, - a hyn, nid er mwyn meithrin diddordeb iach yn
nodweddion y Parc ond, yn ôl yr honiad, i greu cymhelliad marchnadol
mewn man arall.
Mae hyn yn fath o ddinoethi asedau sy’n mynd i yrru y cyhoedd
draw
-
Fe
fydd y math o drafnidiaeth a anogir gan ddefnyddio bysiau, yn
anghyfleus am resymau synnwyr cyffredin, yn gyfyngedig, yn ein rhoi
dan bwysau ac yn ein rhwymo i amserlenni dinasol fydd yn amharu ar
ansawdd ein hamser hamdden. Mae pobl yn dod i’r Parc i ddianc o’r
math hyn o beth.
-
Bydd
pobl yn cael ei ystyried fel cwsmeriaid a themau-chwilwyr yn hytrach
na cherddwyr mynyddig
-
Mae
bysiau yn fwy llygredig na’r ceir y maent yn ei disodli. (Gweler y
ddogfen - Deptartment of
Environment, Transport and the Regions - The environmental Impact of
Road Vehicles). ’Does dim budd amgylcheddol. Ar hyn o bryd,
mae’r nifer o bobl ar gyfartaledd sy’n defnyddio’r gwasanaeth
presennol o fewn yr ardal benodedig yn llai na 1.5.
-
Dyle
fod mynediad yn cael ei gynyddu.
Byddai yn hawdd darparu safleoedd diogel a bron yn anweledig ar
fin y ffordd drwy blannu coed i’w
cuddio. Mae polisi negyddol gan Awdurdod y Parc dros y
blynyddoedd wedi creu y diffiniad ‘problem parcio’. Nid ‘bai’
yr ymwelwyr yw hyn.
Yn groes i’r gred, mae rhifau y drafnidiaeth yn isel, a
phriffyrdd yw’r holl ffyrdd a effeithiwyd yn yr ardal; - felly nid
twristiaid sydd yn y rhan fwyaf o’r cerbydau.
-
Mae’r
cynllun yn cogio meithrin anghymeradwyaeth o ddibyniaeth ar geir, ac
eto mae’n awyddus i adeiladu meysydd parcio helaeth yn y Pyrth.
Mae’r weithred yma yn datgelu rhagrith, cydnabyddiaeth fod y
car yn rhan hanfodol unrhyw gynllun economaidd.
-
Bydd
y glirffordd yn cyfyngu parcio cyfleus. Bydd y ddarpariaeth isafol o
fewn y Parc yn meithrin diwylliant chwareus, yn drychinebus i’r
amgylchedd, gan wneud y profiad o Eryri yn arwynebol a dirboenus.
Mae’r gwir ymrwymiad gyda ardal ac ysbryd ardal yn cael ei israddio.
-
Bydd
’nawr mwy anodd cael at y mannau eithriadol yma sydd ar gadw’n
benodol ar gyfer ei’n mwynhad nac y bydd i gyrraedd mannau di-nod
o rinwedd difater.
-
Mae’r
boblogaeth leol yn cael eu hawl i fynediad di‑dâl wedi ei dwyn
oddi arddont, ac yn cael ei gynnig yn ôl am dâl neilltuol! Mae hyn
yn lladrad drud. Mae’n ailddiffinio y preswylwyr fel ond cwsmeriaid,
ymwelwyr yn eu hamgylchedd eu hunan. Budd yn rhoi synhwyriad o wagle a
diwylliant analluog.
-
Mae’r
Pyrth yn cael eu hailddiffinio yn nhermau gorlwytho twristiaeth.
Dylem bryderu am y cyfanrwydd pensaernïol a’r diwylliant
cymdeithasol. Mae’r ddogfen yn gofyn i ni dreulio llai o amser ar y
bryniau a mwy yn y trefydd!
-
Mae’r
ymwelwyr ’nawr yn cael eu bygwth, nid eu croesawu.
Byddent yn dewis mynd i rywle arall lle nad oes y fath amodau.
-
Mae’r
cynllun yn hanfodol ddideimlad ac yn seiliedig ar gamddealltwriaeth o
beth mae Eryri yn golygu i bobl. Ni ddylai fod yn sylfaen i unrhyw
fenter. Dydy ei dogfennau ddim yn egluro ei hymresymiadau nac yn
cyflenwi data dealladwy. Mae’n ceisio darbwyllo yn hytrach na
chyfarwyddo. Rydym yn cefnogi gwasanaeth bysiau gwell ac menter
adfywio ofalgar, ond nid ar y telerau hyn, telerau yn ein tyb ni fydd
yn lladd yr iâr a cholli’r cywion.