Cymraeg
Welsh 
Home
Snowdonia
Green Key
Partnership
Freedom to choose - Snowdonia Group
What We Think
Addresses
Questionnaires
Search
Your Support
 Ble mae'r adroddiadau cefndirol?

Goriad Gwyrdd Eryri - Datganiad Strategaeth - Drafft Yngynghorol: 

Mae para 2.9 o'r ddogfen Drafft yn datgan:

  • Mae'r cynigion sy'n cael eu cyflwyno isod wedi'i seilio ar sawl darn o ymchwil megis Astudiaeth Gogledd Eryri (Prifysgol Cymru Caerdydd, 1998) ac astudiaethau pellach gan Cynefin (1999) a Newidiem (2002). Mae'r ymchwil yma'n gosod cyfres o argymhellion ar gyfer datblygu twritiaeth sydd yn economaidd ac amgylcheddol gynaliadwy ac sydd yn ei dro yn lleihau'r ddibyniaeth ar y car modur preifat ar gyfer teithio i ac oddi wrth amgych ardal gogledd Eryri. (Mae'r adroddiadau yma ar gael er ymgynghoriad) 

Mae para 5.1 o'r ddogfen Drafft yn datgan:

  • Mae potensial economaidd gweithredu'r Fenter hon wedi'i gysidro mewn dau ddarn o ymchwil sef Astudiaeth Gogledd Eryri (Prifysgol Cymru Caerdydd, 1998) ac yn astudiaeth Newidiem "Effaith Economaidd Astudiaeth Gogledd Eryri" (2002) (Mae'r ddwy astudiaeth ar gael ar gyfer ymgynghoriad) 

Mae amser yn brin.   Lle mae’r dogfennau hyn yw gweld - dogfennau lle defnyddiwyd arian cyhoeddus yw cynhyrchu?

Yn y cyfarfod ymgynghori cyhoeddus ym Methesda (28/1/02), gwnaethpwyd cais am i’r ddwy ddogfen mae agweddau economaidd yr Strategaeth Ddrafft, Goriad Gwyrdd Eryri wedi ei seilio arnynt fod ar gael i’r cyhoedd mewn llyfrgelloedd cyhoeddus lleol.  Hefyd, gwnaethpwyd cais am i gopïau Electronig gael eu gosod ar y Safle-we lle byddent ar gael i ymgynghori yn y dyfodol. Nid oedd y Cadeirydd, y Cynghorydd Dafydd Iwan, yn fodlon rhoi ateb uniongyrchol ie neu na. Fe fynegodd fod y dogfenni yn rhy hen, nid mwyach yn berthnasol, ac nad oedd angen i bobl eu darllen.

Mae mudiad Rhyddid i Ddewis - Eryri wedi rhoi copi o’r ddwy ddogfen yma yn y llefydd canlynol, lle byddent ar gael i bobl eu darllen a barnu dros eu hunan ynglyn â beth yw eu cynnwys.

 

Lleoliad

Amseroedd Agor

Llun Maw Merch Iau Gwen Sad Sul
Bethesda Llyfrgell, Ffordd Coetmor. Ffôn 01248 600737 1-6 Ar Gau 3-6 2-7 10-12
2-6
10-12 Ar Gau
Betws y Coed, The Gallery, Holyhead Rd. Ffôn 01690 710432 10-5 10-5 10-5 10-5 10-5 10-5 10-5
Capel Curig, Pinnacle Cafe 8-5.30 8-5.30 8-5.30 8-5.30 8-5.30 8-5.30 8-5.30
Llanberis, Pete’s Eats, 40 Stryd Fawr. Ffôn 01286 870358 9-6.30 9-6.30 9-6.30 9-6.30 9-6.30 8-8 8-8
Llanrwst Llyfrgell, Plas yn Dre, Station Rd. Ffôn 01492 640043 10-5.30 10-5.30 10-5.30 Ar Gau 10-7 10.1 Ar Gau
Porthmadog Llyfrgell,  Stryd Wesla. Ffôn 01766 514091 (o 15/02/02) 10-12
2.30-6.30
10-12
4-7
10-12
2.30-4
10-12 10-12
4-7
10-12 Ar Gau

Gofynwch i weld y dogfennau isod, ceir darllen nhw ond ddim benthyg nhw

  1. Northern Snowdonia Study: Developing Local Economic Opportunities through the Management of Visitor Traffic (1998) - ISBN 1897901747
  2. Newidiem - Economic impact analysis of the Northern Snowdonia Study: Final report for the Snowdonia National Park Authority (2000)

Yn ôl