|
Sefydlwyd y grwp
‘Rhyddid i Dewis - Eryri’ mewn ymateb i Strategaeth Goriad Gwyrdd
Eryri.
Mae’n
gorff yn cynnwys trigolion lleol a phobl o’r tu allan i Eryri sy’n
cynrychioli amrywiaeth eang o ddiddordebau a sy’n rhwym a’u gilydd gan
bryder dwys am ddyfodol Eryri ac ansawdd y profiad mae’n gallu ei
ddarparu.
Rydym
yn gwrthwynebu Strategaeth Goriad Gwyrdd Eryri am y rhesymau canlynol:
1.
Nid oes ‘problem symudiad
trafnidiaeth’ yn Eryri. Hyd yn oed ar yr adegau prysuraf, dydy
lefelau’r drafnidiaeth ond ffracsiwn o beth oeddynt cyn agor y wibffordd
A55.
2.
Mae mannau parcio ar ochr y ffordd ac encilfeydd yn hanfodol i
hawliau’r unigolyn a ddymunai efallai ond stopio am amser byr tra’n
edmygu’r olygfa, tynnu lluniau, ayb.
3.
Byddai cynllun parcio a reidio gorfodol yn Eryri, yn ddiddychymyg
ac yn anweithredadwy oherwydd byddai’r mwyafrif o ddringwyr a cherddwyr
mynyddoedd yn dewis bod yn y mannau cychwyn e.e. Pen y Pass ac Ogwen
oddeutu’r un adeg, tua 8.0yb i 9.30yb a byddent oll yn disgwyl cael eu
codi oddeutu machlud yr haul. Mae’n ffaith amlwg na fyddai ’na byth
ddigon o fysiau ar gyfer yr amserau hyn, ac y byddai’r bysiau yn rhedeg
yn wag am weddill y diwrnod.
Yn ychwanegol, mae’r cynllun hefyd yn anwybyddu anghenion niferoedd
enfawr o ymwelwyr sydd nad yn dringo na heicio ond yn syml sydd ond yn
dymuno mwynhau y golygfeydd, cael picnic, tynnu lluniau ayb. Ni fyddai’r
bobl hyn byth yn defnyddio cynllun parcio a reidio.
4.
Fel a ddangoswyd gan yr arbrawf parcio a reidio yn dilyn epidemig y
clwyf traed a’r gennau, byddai’r effeithiau ar fusnesau o fewn Eryri
yn drychinebus a byddai busnesau o fewn y trefi pyrth hefyd yn dioddef
oherwydd bod y meysydd parcio yn llawn drwy gydol y diwrnod a hynny yn
rhwystro cwsmeriaid rhag parcio.
5.
’Does dim ymgynghori ystyrlon wedi cymeryd lle gyda’r trigolion,
grwpiau defnyddwyr na’r ymwelwyr ac nid ydynt wedi bod yn ymglymedig
gyda chynhyrchu’r Strategaeth.
6.
Gwyddom o’r arolwg a wnaethom y byddai’r mwyafrif o ymwelwyr i
Eryri’n mynd i rhywle arall pe bai’r cynllun hwn yn cael ei weithredu
a thrwy hynny’n achosi difrod anhygoel i economi’r ardal
Ein barn ni yw y dylid
rhoi’r gorau i ystyried Strategaeth Goriad Gwyrdd Eryri a’i rhoi yn
gyfan gwbl yn syth ar y domen ac y dylid ffurfio cynllun newydd sy’n
ymgorffori’r amcanion canlynol:
1.
I fabwysiadu system drafnidiaeth gyhoeddus sy’n unol â anghenion
yr ymwelwyr a’r trigolion ill dau ac nid delfrydau rhyw fiwrocratiaid
2.
I ddarparu mwy o feysydd parcio o’r math ridiau gwair, wedi eu
lleoli’n sympathetig, eu cysgodi a heb daliadau parcio
3.
I ddarparu llwybrau cerdded a reidio lefelau isel a mannau mynediad
yn ogystal â chyweiriadau a gwelliannau i lwybrau, golygfannau a lleoedd
picnic ayb. sydd ohoni
4. I annog twristiaeth yn weithredol o fewn Eryri drwy
gefnogi busnesau lleol a fydd yn eu tro yn cyflenwi cynnydd gwirioneddol
mewn cyflogaeth leol.
|