|
YMGYNGHORIAD
hvnod werthfawr ac adeiladol
Mae
ymgynghoriad helaeth yn Eryri a'r ardal wedi cynhyrchu syniadau ar y modd y
gellid datblygu twristiaeth a thrafnidiaeth gyhoeddus yn yr ardal.
Dros
y misoedd diwethaf mae Goriad Gwyrdd Eryri wedi cynnal saith cyfarfod
cyhoeddus yn yr ardal, ac mae strategaeth drafft sydd yn cynnig syniadau am
sut y gellir integreiddio y diwydiant twristiaeth gyda'r economi lleol wedi
cael ei rhannu o gwmpas ardal eang.
Bu'r
ymateb i'r ymgynghoriad yn rhyfeddol- derbyniwyd miloedd o lythyrau a
negeseuon e bost, a mynychwyd y cyfarfodydd cyhoeddus gan lawer. Daethpwyd i
gytundeb bod Eryri yn ardal anhygoel, yn le unigryw ac y dylid ei rheoli
gyda gofal a dealltwriaeth. Derbyniwyd nifer o gynigion ynglyn â'r ffyrdd y
gellid gwella enillion economaidd o dwristiaeth o fusnesau lleol ac o'r
gymuned yn gyffredinol.
Fel
canlyniad i'r ymateb rhyfeddol mewn perthynas ag un agwedd o'r cynllun, yr
elfen "Parcio a Theithio", bydd y Bartneriaeth yn ailgysidro ei
gynigion ac yn cynhyrchu cynlluniau diwygiedig gyda chymorth ymgynghorwyr a
chyda chydweithrediad a chyfraniad llwyr gan bobl leol a phartïon sydd â
diddordeb.
"0
hyn ymlaen, bydd rhaid i'r Fenter, os am lwyddo i gyflawni ei bwrpas, gael
ei datblygu gyda chydweithrediad a chefnogaeth y gymuned leol a thrwy
ymgynghori clos gyda'r holl bartïon sydd â diddordeb." Meddai'r Cyng,
Dafydd Iwan, Cadeirydd Grwp Gweithredol Menter Goriad Gwyrdd Eryri.
Nododd
Cyng Iwan fod yr ymresymiad y tu ôl i'r cynllun wedi ei golli i ryw raddau,
fel canlyniad i'r ymateb ar yr elfen 'Parcio a Theithio': "Rydym eisiau
clirio'r mater- nid oedd hi'n fwriad i'r Menter Goriad Gwyrdd Eryri fod yn
gynllun Parcio a Theithio gorfodol. Ei brif bwrpas yw datblygu potensial
hynod Eryri, yn y tymor hir ac mewn modd cynaliadwy, er mwyn cryfhau yr
economi lleol, a gwella safon byw ar gyfer cymunedau lleol a holl amrywiol
ddefnyddwyr y cyfleusterau lleol.
Hoffai
Goriad Gwyrdd Eryri, partneriaeth sydd yn cynnwys Cyngor Gwynedd, Cyngor
Conwy, Awdwdod Pare Cenedlaethol Eryri, Cyngor Cefngwlad Cymru, Asiantaeth
Datblygu Cymru, a Bwrdd Twristiaeth Cymru, ddiolch i bawb sydd wedi cymryd
rhan yn y broses ymgynghori llwyddiannus hon, a'u sicrhau fod eu barn a'u
syniadau adeiladol wedi cael eu derbyn.
|